[Hanes yr adeilad] [Codi arian] [Adeiladu'r Eglwys]

 

Eglwys Santes Margred, Gilfach

 

Hanes fer am Eglwys Santes Margred – Gilfach

 

Cliciwch yma am ragor o luniau

 

Hanes yr adeilad presennol

Yn gynnar yn 1927 yn dilyn y Dirwasgiad Mawr a ddatblygodd ar ôl y Streic Gyffredinol yn 1926 a tra roedd y pyllau glo wedi bod yn segr am 7 mis a’r lefel o ddiweithdra yn ofnadwy o uchel, penderfynnodd aelodau Eglwys Santes Marged adeiladu adeilad parhaol ar dir yr Eglwys. Cafodd y syniad cefnogaeth llawn gurad yr Eglwys, y Parchedig George Pritchard a Canon T. Jesse Jones.

 

Codi arian

Wnaeth nifer o syniadau cael eu trafod ond yr un a chafodd y gefnogaeth mwyaf oedd cynllun y ‘Penny Brick’. Y syniad oedd bod darnau o gerdyn yn cael eu torri i siap bric, a wedyn yn cael eu gwerthu am geiniog yr un. Roedd rhaid gwerthu 240 bric i godi £1.

Cafodd hi ei phwysleisio bod rhaid i bob aelod prynu o leiaf un bob wythnos, er bod amserau yn anodd. Erbyn y 30au roedd y briciau dal yn cael eu prynu, ond yn drist o gwmpas yr amser yma bu farw y Parchedig Canon T. Jesse Jones a gaeth J. O. Williams o ardal Llantrisant ei benodi fel y Rector newydd.

Fe ddywed y Rector newydd ar ôl glywed am y syniad o adeilad parhaol a’r ffaith bod yr aelodau wedi llwyddo i godi £3000, (gan gynnwys rhoddiad oddi wrth aelodau Eglwys Sant Catwg, Gelligaer) “We will wait no longer, but build.”

 

Adeiladu’r Eglwys

 

Cafodd pensaer ei apwyntio ac adeiladwr ei ddewis sef Mr Sam Williams o Drelewis. Er mwyn arbed arian penderfynnodd Mr Williams a’r Rector y dylai’r aelodau gwrywaidd palu’r sylfaenau. Dau aelod a chwareuodd rôl bwysig wrth goruwchwylio’r aelodau eraill oedd Mr Sam Carter; tad Mrs Bertha Grist a Cwnstabl Lloyd; tad Miss Gertie Lloyd.

Ar ôl sbel wnaeth y waliau cyrraedd yr uchder a oedd angen er mwyn gosod y garreg sylfaenol. Mrs Ruth Hanbury-Tenison, merch y teulu Hanbury gosododd y garreg. Y teulu Hanbury oedd perchnogwyr ystad Hanbury. Mae’r Eglwys nawr yn sefyll ar dir a oedd yn rhan o’r ystad yna.

Roedd codiad yr arch mawr Chancelyn yn diddorol iawn. Cyrhaeddodd y cregiau yr Eglwys ar lori, wedi eu cymysgu lan. Cafodd y creigiau eu cario oddi ar y lori mewn ffordd anrhefnus. Felly ar ôl astudio cynllun y pensaer wnaeth Mr Sam Williams
dewis y carreg roedd e’n ystyried i fod yr un gywir, un wrth un, a gosododd e nhw ar y llawr, ar hyd lle mae seddi yr Eglwys nawr. Felly pryd daeth yr amser i osod y carreg ganol bwa roedd e’n gallu gweld y creigiau yn eu trefn iawn, a roedd y carreg ganol bwa yn ffitio’n berffaith. Roedd yr holl arch Chancelyn yn ffitio gyda’u gilydd yn berffaith tra’n gorwedd ar y llawr. Wedyn fe mesurodd y pellter rhwng y dau garreg ar y gwaelod a wedyn fe checiodd y mesuriadau yn ôl ble oedd yr arch i gael ei godi. Yna cymerodd ef y dau garreg gwaelod un wrth un a’u gosod nhw yn eu safle cywir, gan checio’r mesuriadau unwaith eto. Wnaeth yr arch cael ei gymryd carreg wrth garreg o’r llawr a’u codi i fel mae e heddi. Lan aeth y waliau wedyn i’r uchder cywir, a wedyn cafodd y tô ei osod.

 

[Hanes yr adeilad] [Codi arian] [Adeiladu'r Eglwys]

[Safeguarding Policy][Disclaimer] [Home Page]